CânSing ar youtube
Cliciwch yma i ymweld â sianel youtube CânSing.
Cyhoeddiad ynghylch sgriniau rhyngweithiol - [03/02/2021]
Sgriniau Newydd!
Fel y bydd llawer ohonoch yn gwybod, nid yw Adobe yn cefnogi Flash Player mwyach ac mae wedi rhwystro cynnwys Flash rhag rhedeg yn Flash Player gan ddechrau ar 12 Ionawr 2021 sydd, yn anffodus, yn effeithio ar ymarferoldeb adnoddau CânSing, ac yn arbennig felly y sgriniau rhyngweithiol.
Ers i Adobe gyhoeddi'r penderfyniad hwn, rydym wedi bod wrthi’n archwilio opsiynau posibl eraill i sicrhau ein bod yn gallu parhau i ddarparu'r sgriniau rhyngweithiol gan ein bod yn gwybod bod y rhain yn adnodd gwerthfawr iawn a bod llawer o bobl yn dibynnu arnyn nhw. Felly, mae’r sgriniau sydd wedi’u creu yn ystod y 2-3 blynedd diwethaf yn defnyddio HTML 5 ac nid yw'r newid yn effeithio ar y rhain, ond yn anffodus, ni fydd y mwyafrif mawr o’r sgriniau gwreiddiol (2010-2015) yn rhedeg yn y mwyafrif o borwyr.
A ninnau’n sefydliad nid er elw, rydym yn edrych ar opsiynau i sicrhau’r cyllid/partneriaeth fusnes angenrheidiol i'n helpu i drosi'r deunyddiau hyn i fformat addas, mwy cyfredol i'n galluogi i barhau i'w darparu, heb ffi, i ysgolion a chymunedau ledled Cymru a thu hwnt.
Rydym wedi blaenoriaethu diweddaru rhai o'n caneuon mwyaf poblogaidd gan gynnwys:
Gobeithio y byddwch chi'n mwynhau defnyddio'r sgriniau newydd. Rydym yn gweithio'n galed i drosi gweddill ein hadnoddau cyn gynted â phosibl.
Yn y cyfamser, daliwch ati i ddefnyddio'r adnoddau sydd heb eu heffeithio, gan gynnwys sgoriau a thraciau cefndir (fformat mp3) sydd i gyd ar gael ichi eu lawr lwytho yn rhad ac am ddim.
Diolch yn fawr ichi am eich amynedd a'ch cefnogaeth barhaus,
Suzanne
Suzanne Barnes
Cyfarwyddwr
Cân yr wythnos
Teitl: | Fendigaid Nos |
Cywair: | G fwyaf |
Cwmpas lleisiol: | 10fed |
Safon: | Canolradd |
Thema: | Carol / Y Nadolig / Cristnogaeth |
Caneuon
Dewisiwch gategori:
- Caneuon adleisio
- Caneuon CILT Cymru (ITM)
- Caneuon Cyfnod Sylfaen
- Caneuon Galw ag ateb
- Caneuon gyda rhannau annibynnol
- Caneuon sgat a byrfyfyrio
- Pob Cân
- Tonau Crynion
Safon:
Neu thema:
Ymarferion

