Cân: Ffarwelgan

Teitl:
Ffarwelgan
Cyfansoddwr:
Wolfgang Amadeus Mozart
Trefniant:
Helen Woods/Ruth Evans
Geiriau:
Emanuel Schikaneder/Jeremy Sams/Sian Meinir
Cywair:
F Fwyaf
Amrediad lleisiol:
13eg F i D
Rhannau:
3
Safon:
Heriol
Thema:
Opera Adrodd stori Hud / Ffantasi Teithiau / Trei

Ensemble hyfryd yw'r 'Ffarwelgan' o'r opera enwog The Magic Flute (Die Zauberflöte yn Almaeneg) gan Wolfgang Amadeus Mozart. Mae'r opera wedi ei gosod mewn byd hudolus sy'n cynnwys anghenfil, dirgelwch, yr ymbil am wir gariad ac yn olaf, goleuedigaeth. Mae'r opera yn cynnwys rhai o ariâu mwyaf enwog Mozart, gan gynnwys yr aria 'The Queen of the Night'. Ysgrifennwyd y liberto ffraeth gan Emanuel Schikaneder ac mae'n singspiel. Perfformiwyd yr opera am y tro cyntaf ym 1791 yn Awstria, cwta ddeufis cyn marwolaeth gynnar y cyfansoddwr ac mae hi ymhlith rhai o'r operâu y perfformir amlaf.

Mae'r 'Ffarwelgan' yn deillio o Act 1 yr opera. Sgwrs yw hi rhwng Tywysog Tamino, ei bartner doniol Papageno (yr heliwr adar) a'r Tair Boneddiges. Mae Tamino yn ceisio dod o hyd i'r brydferth Pamina, y mae wedi cwympo mewn cariad â hi. Mae'r Tair Boneddiges wedi rhoi ffliwt hud i Tamino sydd â'r pwer i droi gofid yn llawenydd. Mae'r merched yn dweud wrthynt am Dri Bachgen (ysbrydion plant), a fydd yn arwain Tamino a Papageno i deml Sarastro i achub Pamina.

WNO