Cân > Caneuon gyda rhannau annibynnol > Cytgan Hymian

Manylion

Teitl: Cytgan Hymian
Cyfansoddwr: Giacomo Puccini
Trefniant: Helen Woods
Geiriau:
Cywair: E Feddalnod Fwyaf
Cwmpas lleisiol: 11fed
Rhannau: 2
Safon: Canolradd
Thema: Opera

Cytgan Hymian

Mae’r ‘Humming Chorus’ yn dod o’r opera Madam Butterfly gan Giacomo Puccini.
Cafodd Madam Butterfly ei pherfformio gyntaf yn 1904 a hon oedd ffefryn Puccini ei hun ymhlith ei operâu. Ysgrifennwyd y libreto (testun opera) gan Giacosa ac Illica ac mae’n seiliedig ar stori fer o’r un teitl a ysgrifennwyd gan John Luther Long (1898). Mae’r opera yn digwydd mewn tÅ· sy’n edrych dros Nagasaki, Siapan, rhwng 1889 a 1892, ychydig cyn dechrau’r rhyfel rhwng Tseina a Siapan. Mae’r ‘Humming Chorus’ yn cael ei berfformio yn Act Dau ac yn cael ei ganu gan y corws, oddi ar y llwyfan, gan ddangos treigl amser.